[:en]Postgraduate open day advising studentsWe are pleased to announce that this year we will be holding Swansea University’s first Postgraduate Research Festival.
The PGR Festival will highlight the work of our PGR community and celebrate the outstanding contribution PGR students make to the university.
We plan to kick off the festival with a talk from an inspirational academic speaker. Alongside the events that have traditionally made up the PGR Showcase, such as Three Minute Thesis (3MT), PGR Awards and a poster competition, we are inviting colleagues from across the university to help shape the event by holding events and activities.
Across the festival there will be additional development and networking opportunities for PGR students and the academic, technical and support staff who work with them.
The PGR Festival will take place in May (exact dates to be confirmed) with a Careers event for PGRs and ECRs on May the 11th and the 3MT final on May the 18th. It will run across both campuses and will include a mix of online and in-person events and activities.

How to get involved

If there is an event you want to host as part of the PGR Festival, let us know by completing the event form by the 15th of March.
If you are already holding an event that you’d like to include in the festival line up, please let us know.
We will also be opening this call to PGR students and would welcome collaborative events and activities.
Any questions about the Postgraduate Research Festival and how you can be involved please email postgraduate-research@swansea.ac.uk[:cy]Postgraduate open day advising studentsRydym yn falch o gyhoeddi y byddwn ni’n cynnal Gŵyl Ymchwil Ôl-raddedig gyntaf Prifysgol Abertawe eleni.
Bydd yr Ŵyl Ymchwil Ôl-raddedig yn amlygu gwaith ein cymuned Ymchwil Ôl-raddedig ac yn dathlu’r cyfraniad eithriadol y mae myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig yn ei wneud i’r Brifysgol.
Rydym yn bwriadu dechrau’r ŵyl gyda sgwrs gan siaradwr academaidd llawn ysbrydoliaeth. Ar y cyd â’r digwyddiadau sydd wedi bod yn rhan draddodiadol o’r Digwyddiad Arddangos Ymchwil Ôl-raddedig, megis Thesis Tair Munud, Gwobrau Ymchwil Ôl-raddedig a chystadleuaeth bosteri, rydym yn gwahodd cydweithwyr ledled y Brifysgol i helpu i lunio’r digwyddiad drwy gynnal digwyddiadau a gweithgareddau.
Ar draws yr ŵyl, bydd cyfleoedd ychwanegol am ddatblygu a rhwydweithio i fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig a’r staff academaidd, technegol a chefnogi sy’n gweithio gyda nhw.
Cynhelir yr Ŵyl Ymchwil Ôl-raddedig ym mis Mai (union ddyddiadau i’w cadarnhau) a chynhelir digwyddiad Gyrfaoedd i Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig ac Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar ar 11 Mai a’r Thesis Tair Munud ar 18 Mai. Caiff ei chynnal ar draws y ddau gampws a bydd yn cynnwys cymysgedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Sut i Gymryd Rhan
Os oes digwyddiad rydych chi am ei gynnal fel rhan o’r Ŵyl Ymchwil Ôl-raddedig, rhowch wybod i ni drwy gwblhau’r ffurflen ddigwyddiadau erbyn 15 Mawrth.
Os ydych chi eisoes yn cynnal digwyddiad yr hoffech chi ei gynnwys yn rhestr ddigwyddiadau’r ŵyl, rhowch wybod i ni.
Byddwn hefyd yn ymestyn yr alwad hon i fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig a chroesawn ddigwyddiadau a gweithgareddau cydweithredol.
Os oes gennych chi gwestiynau am yr Ŵyl Ymchwil Ôl-raddedig a sut y gallwch chi gymryd rhan, e-bostiwch postgraduate-research@abertawe.ac.uk[:]