[:en]PlasticThe Big Plastic Count is the UK’s biggest ever investigation into household plastic waste created by our friends at Greenpeace and Everyday Plastic to understand how much plastic we’re using in the UK and what’s really happening to it.
The Big Plastic Count will uncover the truth about how much household plastic we throwaway, and how much is really recycled. The nation will come together to count their plastic waste for one week in May and the new evidence will be crucial to convince the government, big brands and supermarkets to finally take ambitious action on plastic packaging. 
How can I get involved?

  1. Sign up here and select the option to receive a digital pack, which includes everything you need for the week to make counting and sharing your results quick and easy.
  2. From May 16th-22nd, record all of the plastic packaging you throw away using the tally sheet provided!
  3. At the end of the week, you’ll be shown your own plastic footprint, revealing what really happens to it once it leaves your home, and evidence of the true scale of the UK’s plastic problem.
  4. The Big Plastic Count will also share tips on how you might be able to reduce plastic in day-to-day life.

It’s easy to feel overwhelmed by the plastic crisis… The Big Plastic Count is an amazing opportunity to actually DO something about it! 
We can’t wait to get counting and be part of creating the change we need to see – join us! Sign up now – and encourage your friends, family and community to get involved too!
Sign up to take part in The Big Plastic Count and help put pressure on the government and big brands to do more to reduce single-use plastic!
 [:cy]PlasticY Cyfrif Plastig Mawr yw’r archwiliad mwyaf erioed yn y Deyrnas Unedig i wastraff plastig aelwydydd, wedi’i greu gan ein ffrindiau yn Greenpeace ac Everyday Plastic er mwyn deall faint o blastig rydym ni’n ei ddefnyddio yn y DU a’r hyn sy’n digwydd iddo mewn gwirionedd.
Bydd y Cyfrif Plastig Mawr yn datgelu’r gwirionedd am faint o blastig mae aelwydydd yn ei daflu, a faint sy’n cael ei ailgylchu mewn gwirionedd. Bydd y genedl yn dod ynghyd er mwyn cyfrif ein gwastraff plastig am wythnos ym mis Mai, a bydd y dystiolaeth newydd yn hollbwysig i argyhoeddi’r llywodraeth, y cwmnïau mawr a’r archfarchnadoedd i weithredu’n uchelgeisiol ynghylch deunydd pacio plastig o’r diwedd.
Sut gallaf gymryd rhan?

  1. Cofrestra yma a dewisa’r opsiwn i dderbyn pecyn digidol, sy’n cynnwys popeth y bydd ei angen arnat ar gyfer yr wythnos er mwyn cyfrif a rhannu’ch canlyniadau’n gyflym ac yn hawdd.
  2. O 16 i 22 Mai, cofnoda’r holl ddeunydd pacio plastig rwyt ti’n ei daflu gan ddefnyddio’r daflen gofnodi sydd wedi’i darparu!
  3. Ar ddiwedd yr wythnos, byddi di’n gweld dy ôl troed plastig di, a fydd yn datgelu beth sydd wir yn digwydd iddo ar ôl gadael dy gartref, a thystiolaeth o wir raddfa’r broblem yn y DU o ran plastig.
  4. Bydd y Cyfrif Plastig Mawr hefyd yn rhannu awgrymiadau ynghylch sut gallet ti leihau plastig yn dy fywyd beunyddiol.

Mae’n hawdd teimlo bod yr argyfwng plastig yn dy lethu… Mae’r Cyfrif Plastig Mawr yn gyfle gwych i WNEUD rhywbeth go iawn amdano!
Rydym ni’n edrych ymlaen at ddechrau cyfrif a bod yn rhan o’r newid y mae ei angen arnom – ymuna â ni! Cofrestra nawr – ac anoga dy ffrindiau, dy deulu a dy gymuned i gymryd rhan hefyd!
Cofrestra i gymryd rhan yn Y Cyfrif Plastig Mawr a helpa i roi pwysau ar y llywodraeth a’r cwmnïau mawr i wneud mwy i leihau plastig untro![:]