Mae Heddlu De Cymru wedi derbyn adroddiadau am ddinoethi anweddus ym Mharc Singleton dros y dyddiau diwethaf. Rydym am sicrhau bod yr holl staff a myfyrwyr yn ymwybodol o’r achosion hyn ac yn annog pobl sy’n cerdded drwy’r parc ar eu pennau eu hunain i fod yn wyliadwrus. Hoffem annog yr holl staff a myfyrwyr i lawrlwytho’r ap SafeZone.
Student Partnership and Engagement Manager Gwener Mai 13th, 2022
Posted In:
Negeseuon, Llesiant
Leave a Comment
Llongyfarchiadau i’n hymchwilwyr y mae eu gweithgareddau ymchwil ar ran Abertawe wedi cyfrannu at lwyddiant yn REF2021. Hoffem ddiolch yn ddiffuant i’r holl gydweithwyr ym mhob rhan o’r brifysgol sydd wedi cyfrannu at REF2021.
Mae REF2021 yn rhoi darlun cenedlaethol o ansawdd ymchwil prifysgolion ledled y DU. Roedd Abertawe’n un o 157 o sefydliadau yn y DU a gyfranogodd yn REF2021, a asesodd ansawdd yr ymchwil a gyhoeddwyd, effaith a buddion ehangach yr ymchwil ac ansawdd yr amgylchedd ymchwil.
Mae canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF2021) a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod cyfran Prifysgol Abertawe o ymchwil sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang ac sy’n rhagori’n rhyngwladol wedi gwella:
- 86% o’n hymchwil cyffredinol a 91% o’n hamgylchedd ymchwil yn arwain y byd ac yn rhagori’n rhyngwladol.
- 86% o effaith ein hymchwil yn rhagorol ac yn sylweddol iawn.
Mae cydweithredu a chyd-greu wrth wraidd ein hymagwedd bwrpasol at ymchwil ac arloesi ac rydym yn ddiolchgar i’n partneriaid rhanbarthol a byd-eang am barhau i’n cefnogi.
Ceir canlyniadau llawn ein perfformiad yn REF2021
yma
Student Communications Coordinator
Posted In:
Negeseuon
Leave a Comment
Gan Togetherall
Mewn cyfnod pan mae hi mor hawdd i gysylltu mewn eiliadau ag unrhyw un yn y byd, pam mae ymdeimlad o fod yn unig ac ynysig yn cael lle mor amlwg yn ein sgyrsiau am iechyd meddwl? Mae cyfyngiadau ynysu Covid-19, gwleidyddiaeth begynol, ac anghyfiawnderau cymdeithasol i gyd wedi creu teimladau o ansicrwydd, dicter, tristwch ac ynysu.
Gyda’n ffyrdd o gysylltu wedi newid cymaint mewn tair blynedd, gallwn deimlo teimladau
cryfion wrth feddwl sut a phryd i gymdeithasu. Mae’r 2020au wedi amlygu’r cwestiwn: beth mae’n ei olygu i fod wedi’n cysylltu ag eraill ac a ydym ni’n teimlo’n unig mewn gwirionedd?
(more…)
Student Communications Coordinator Iau Mai 12th, 2022
Posted In:
Negeseuon, Llesiant
Leave a Comment
Ydych chi wedi cael profiad o stelcio neu aflonyddu ar-lein?
Ydych chi wedi cael profiad o dwyll ar-lein?
Ydych chi wedi cael profiad o gasineb neu gam-drin ar-lein?
Mae ‘Clinig Seiber Abertawe’ yn brosiect ymchwil peilot sy’n ymchwilio i anghenion cymorth dioddefwyr‘ ym myd digidol heddiw.
P’un a ydych chi wedi rhoi gwybod amdano ai peidio, os ydych chi’n oedolyn sy’n byw yng Nghymru, rydym ni am glywed gennych chi. (more…)
Student Communications Officer Mercher Mai 11th, 2022
Posted In:
Amrywiol, Arolygon ac Astudiaetha
Leave a Comment
« Previous Page —
Next Page »