Cyflwyno straeon i Gylchlythyr Wythnosol y Myfyrwyr:
Anfonir e-bost a phynciau nad ydynt yn rhai brys fel crynhoad o newyddion yr wythnos yn y Cylchlythyr Myfyrwyr.
Y dyddiad cau ar gyfer cyfrannu stori at y Cylchlythyr Myfyrwyr yw 4pm bob dydd Gwener.
Cyn cyflwyno erthygl, dylech fod yn ymwybodol o’r canlynol:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gylchlythyr y myfyrwyr, e-bostiwch student-newsletter@abertawe.ac.uk.
Calendr Digwyddiadau
Os hoffech i ni hysbysebu a hyrwyddo digwyddiad sydd ar ddod ar eich rhan chi, anfonwch ragarweiniad dwyieithog atom ynghyd â theitl, amser, dyddiad ac unrhyw wybodaeth berthnasol ynghylch cadw lle i student-newsletter@abertawe.ac.uk
Defnyddio’r rhestr o gyfeiriadau myfyrwyr: Canllawiau e-bostio’r holl fyfyrwyr
Oes gennych neges bwysig sy’n berthnasol i’r holl fyfyrwyr ac efallai fod angen anfon e-bost at yr holl fyfyrwyr?
Cyfyngir ar nifer y negeseuon a anfonir at yr holl fyfyrwyr er mwyn sicrhau nad ydynt yn boddi mewn negeseuon e-bost. Mae’n ofynnol i bob aelod staff gydymffurfio â’r canllawiau er mwyn sicrhau ein bod yn glynu wrth arfer da wrth gyfathrebu.
E-bostio’r holl fyfyrwyr:
Y rhestr o gyfeiriadau e-bost myfyrwyr yw’r dull a ddefnyddir i rannu gwybodaeth hanfodol y brifysgol. Gellir anfon negeseuon o’r categorïau canlynol yn uniongyrchol at bawb ar y rhestr:
Os nad yw aelod staff yn cydymffurfio â’r canllawiau neu os yw’n defnyddio’r rhestr mewn modd annerbyniol, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i wahardd yr unigolyn hwnnw rhag defnyddio’r rhestr o gyfeiriadau e-bost myfyrwyr. Gwneir y fath benderfyniad gan Ddirprwy Is-ganghellor, y Cofrestrydd, a’r Prif Swyddog Gweithredol.
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University